AR FORE DYDD NADOLIG
Ar fore Dydd Nadolig
Esgorodd y Forwynig
Ar Geidwad bendigedig,
Ym Methlem dref y ganwyd Ef,
Y rhoes ei lef, drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.
Dros euog ddyn fe’i lladdwyd,
Ac mewn bedd gwag fe’i dodwyd
Ar ol y gair “Gorffenwyd”.
Ond daeth yn rhydd y trydydd dydd
O’r beddrod prudd, drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.
O rasol Fair forwynig,
Mam Ceidwad bendigedig
Yr Iesu dyrchafedig.
Ger gorsedd nef eiriola’n gref,
Achwyd dy lef drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.
| 1 | Marwnad yr Ehedydd (reprise) |
| 2 | Cariad Cyntaf |
| 3 | Dacw 'Nghariad [from «Pur»] |
| 4 | Y Gw dd [from «Gweini Tymor»] |
| 5 | My Donald |
| 6 | Y G g Lwydlas |
| 7 | Dod dy Law |
| 8 | Angau |
| 9 | Ar Lan y M r |
| 10 | Ow! Merch wyf i |