Yr eos a’r glan hedydd,
Ac adar man y mynydd
A ewch chi’n gennad at liw’r haf
Sy’n glaf o glefyd newydd.
‘Does gennyf ddim anrhegion
Na jewels drud i’w danfon,
I ddwyni i’ch cof yr hwn a’ch car,
Ond par o fenyg gwynion.
Yr adar man fe aethant,
I’w siwrnai bell hedasant,
Acyno ar gyfer gwely Gwen,
Hwy ar y pren ganasant
Dywedai Gwen lliw’r ewyn,
“Och fi, pa beth yw’r ‘deryn,
Sydd yma’n tiwnio’n awr mor braf
A minnau’n glaf ar derfyn ?”
“Cenhadon ym gwnewch goelio,
Oddi wrth y mwyn a’ch caro,
Gael iddo wybod ffordd yr ych,
Ai mendio’n wych ai peidio”
“O dwedwch wrtho’n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedel,
Cyn diwedd hyn o haf yn brudd
A’n gymysg bridd a grafel.”
1 | Marwnad yr Ehedydd (reprise) |
2 | Cariad Cyntaf |
3 | Ar Fore Dydd Nadolig |
4 | Dacw 'Nghariad [from «Pur»] |
5 | Y Gw dd [from «Gweini Tymor»] |
6 | My Donald |
7 | Dod dy Law |
8 | Y G g Lwydlas |
9 | Angau |
10 | Ar Lan y M r |